Croeso i safle we Talsarnau, cymuned fechan ar lannau'r afon Dwyryd yng Ngwynedd. Yma cewch wybodaeth am ddigwyddiadau a hanes y pentref, galeri o hen luniau a rhai mwy diweddar, rhestr o glybiau a chymdeithasau. Mae hon yn wir safle gymunedol wedi ei chynllunio a'i chyhoeddi gan drigolion y pentref sydd hefyd yn ei rheoli ac yn ei gweinyddu. Mae'r safle yn agored i'r byd a chroesawn bawb sydd a diddordeb yn ein hardal fechan ni. Gobeithiwn y cewch rywbeth o ddiddordeb yma ac y byddwch yn gyrru gair o ymateb atom. Fe noddir y safle gan fusnesau bach lleol ac fe'i cefnogir gan fudiadau a chymdeithasau'r pentref. |