Gwefan Gymraeg Deudraeth Cyf
Register |


 GWYBODAETH
 :: Croeso
 :: English Version
 :: Hyfforddiant
 :: Amdanon Ni
 :: Cymunedau Cysylltiedig
 :: Parc y Mileniwm
 :: Fy Ebost
 :: Manylion Cyswllt
 :: Diogelwaith Cymru
 :: Swyddi ar Gael

 Login
   
    
Register
Forgot password?

 Prosiect Hyfforddi Darlledu
Big Lottery Logo

sponsors
  Amdanon Ni

Mae Deudraeth Cyf yn sefydliad cymunedol di-elw.

Mae’n gwaith yn cynnwys gweithgareddau adfywio ym Mhenrhyndeudraeth a threfi cyfagos.

Cawsom ein sefydlu fel cwmni cofrestredig yng Nghorffennaf 2000 yn dilyn llwyddiant y cynlluniau a ddatblygwyd gan wirfoddolwyr. Roedd rhain yn cynnwys cynlluniau fel dosbarthu cyfrifiaduron i drigolion lleol er mwyn cynyddu’r defnydd o dechnoleg ymhlith busnesau ac unigolion.

Mae’r cwmni bellach yn gweithredu gyda Bwrdd Cyfarwyddwyr sy’n gynrychiolwyr o’r gymuned lleol ac a oedd cynt yn weithwyr gwirfoddol. Mae’r cwmni yn cyflogi staff o’r ardaloedd lleol.

Rydym yn rheoli a datblygu amryw o gynlluniau, yn arbennig felly mewn meysydd gwybodaeth, Hyfforddiant TG a gwarchod yr amgylchedd.

Yn 2002, fe wnaethom orffen adnewyddu Llys Deudraeth, sydd bellach yn gartref i stiwdio BBC ar gyfer yr ardal, yn ogystal a swyddfeydd i fusnesau lleol.

Yn 2003, pan nad oedd unrhyw opsiynau rhyngrwyd cyflym ar gael, fe wnaethon ni fuddsoddi’n sylweddol mewn rhwydwaith bandeang diwifr.

Yn yr un flwyddyn, fe wnaethon ni gychwyn hyfforddiant TG ac agor ein ystafelloedd hyfforddi yn Llys Deudraeth.

Yn 2006, bu i ni gwblhau datblygiad Parc y Mileniwm, sef buddsoddiad gwerth tua £800,000 a fydd yn trawsnewid darn o dir 8 erw diffaith i adnodd hamdden.

Mae gweithgareddau masnachol y cwmni yn creu incwm sy’n cael ei ail-fuddsoddi i ddatblygiadau lleol. Ble bynnag mae hynny’n bosib rydym yn edrych am gyfraniadau cyfatebol er mwyn cynyddu gwerth y buddsoddiad.

Os nad ydych eisoes yn defnyddio’r gwasanaethau, yna gwnewch hynny. Gallwch fod yn sicr y byddwch yn cael gwasanaeth ardderchog a bod unrhyw ‘elw’ yn cael ei ail-fuddsoddi mewn cynlluniau lleol.