History
Llai na dwy ganrif yn ôl, roedd y tir lle saif y dref yn ferllyn llonydd â chorstir o'i amgylch. Cafodd ei ddraenio a'i ddatblygu yn 1852 gan y sgweiar gwlatgarol, David Williams o Gastell Deudraeth, Minffordd. English Version |
Cyflogid yr ychydig drigolion yn y cyfnod cynnar mewn amaeth, ac yn y mwynfeydd copr a phlwm. Byddai rhai o'r dynion yn gweithio hefo'r cychod a gludai'r llechi i lawr Afon Dwyryd i'w hallforio. Byddai'r merched yn aml yn casglu cocos yn yr aber ac yn eu gerthu'n lleol. Llai na dwy ganrif yn ôl, roedd y tir lle saif y dref yn ferllyn llonydd â chorstir o'i amgylch. Cafodd ei ddraenio a'i ddatblygu yn 1852 gan y sgweiar gwlatgarol, David Williams o Gastell Deudraeth, Minffordd. Dilynodd batrwm Madocks trwy gynllunio y dref mewn trefn tebyg i Dremadog hefo strydoedd llydain a mannau agored. Datblygodd economi'r dref yn rhannol ar ôl adeiladu'r Cob ar draws Afon Glaslyn (1801 - 1811) a datblygiad y chwareli llechi ym Mlaenau Ffestiniog. Daeth newid mawr hefyd pan adeiladwyd rheilffordd gul Ffestiniog i gludo llechi o'r Blaenau i harbwr Porthmadog, a chychwyn rheilffordd y Cambrian yn 1867. Sefydlwyd dau diwidiant pwysig yn sgil y rheilffordd, sef Chwarel y Garth a ffatri gynhyrchu Cotwm Tanio a aeth yn eiddo i gwmni Cooks Explosives yn 1922. (Cymerwyd y cwmni yma drosodd gan Nobel ac wedyn gan ICI a chaewyd y safle yn 1997). Mae Chwarel y Garth yn dal i gynyrchu cerrig sets a cherbiau. Poblogaeth Penrhyndeudraeth ar hyn o bryd yw 1,858. Datblygodd economi'r dref yn rhannol ar ôl adeiladu'r Cob ar draws Afon Glaslyn (1801 - 1811) a datblygiad y chwareli llechi ym Mlaenau Ffestiniog. Daeth newid mawr hefyd pan adeiladwyd rheilffordd gul Ffestiniog i gludo llechi o'r Blaenau i harbwr Porthmadog.
|