 | Community |  | |
 | Developments |  | |
 | Library |  | |
 | Gwefannau Busnes Websites |  | |
 | Login |  | |
 | Search site |  | |
|
|
Welcome
 | Tyrd gyda mi hen gyfaill i ben y clogwyn mawr Rhyw fore yn y Gwanwyn, yn fuan gyda’r wawr. Fe gerddwn unwaith eto ymysg y gwellt a’r brwyn Y rhedyn ac yr eithin, a’r onnen yn y llwyn.
[mwy] |
|
| Hoffwn cael y fraint i rannu y llun/cerdd yma gyda hen ffrindiau o'r pentref , yn arbennig aelodau y ' Gang Topia' (Os 'rydynt dal yn fyw ar ol yr holl Secs, Drygs a Roc 'n Rol ! ). Cofiaf yn hoffus , ac yn aml, am yr amseroedd da yn eu cwmpeini. Michael O'Marah Yr Wyddrug, (gynt o Benrhyndeudraeth)
|  | Tyrd gyda mi hen gyfaill i ben y clogwyn mawr Rhyw fore yn y Gwanwyn, yn fuan gyda’r wawr. Fe gerddwn unwaith eto ymysg y gwellt a’r brwyn Y rhedyn ac yr eithin, a’r onnen yn y llwyn. Ar ol ‘ni gyrraedd yno, wrth gerdded am rhyw awr Mor braf fydd tynnu’n cotiau, dal gwynt ac eistedd ‘lawr. Cawn weled Ynys Gifftan, a Harlech ‘mhellach draw A bryniau gwyrddion Llanfair yn cuddio Abermaw
Ty ol i ni yn galw fydd llethroedd Moelwyn Mawr, Y Moelwyn Bach, y Cnicht a’r hyfryd Wyddfa Fawr. O’n blaen fydd Afon Glaslyn, a Dwyryd dlos, ei chwaer Yn gwneud eu ffyrdd yn dawel i ddyfroedd glas y bae.
Rwy’n siwr mi fydd di’n dawel, mewn meddwl tyfn fel fi Yn ceisio deall pethau sydd yn penblethu mi. Pa le mae’r lleisiau hapus, ‘roedd unwaith ar y gwynt A’r traed oedd ar y llwybrau mewn dyddiau wedi mynd? |
|
|
CYM | ENG
 | Clubs |  | |
 | Adverts |  | |
 | Churches-Chapels |  | |
 | Local News |  | |
 | Top pages |  | |
 | Downloads |  | |
 | Quotation |  |  | Every time I learn something new it pushes some old stuff outta my head! Homer Simpson | |  |
|
 | Archive |  | |
|